ADRODDIAD BLYNYDDOL A DATGANIAD ARIANNOL

Y GRŴP TRAWSBLEIDIOL AR BLANT SY'N DERBYN GOFAL

MAWRTH 2014

 

 

 

 

 

 

 

 

Description: logo

 

 

 

 

             LLEISIAU O OFAL     VOICES FROM CARE

 


 

 

Rhagair David Melding (Cadeirydd) 

 

Nod y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant sy'n Derbyn Gofal yw defnyddio'r adnodd craffu sydd ar gael yn y Cynulliad Cenedlaethol er mwyn helpu i wella safon y gwasanaethau a ddarperir i blant mewn gofal ac unrhyw un sy'n gadael gofal.

 

Yn ystod y flwyddyn, edrychodd y grŵp ar gymorth mabwysiadu, plant sydd ar goll o ofal a chasglu'r data hyn, cynnal cyfleoedd ar gyfer cyswllt ystyrlon rhwng brodyr a chwiorydd mewn gofal, ac ymestyn y cyfnod ar gyfer lleoliadau gofal maeth hyd at 21 oed.

 

Fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol rwy'n ddiolchgar i holl Aelodau'r Cynulliad sydd wedi cefnogi ein gwaith. Rydym hefyd wedi cael budd o arbenigedd sawl siaradwr gwadd sydd wedi rhoi'n hael o'u hamser. Ond heb gefnogaeth ragorol ysgrifenyddiaeth y Grŵp, Lleisiau o Ofal, ni fyddai'r gwaith gwerthfawr hwn wedi bod yn bosibl.

 

 

 

 

Y grŵp trawsbleidiol ar blant sy'n derbyn gofal

Mae'r Grŵp yn cyfarfod i drafod materion pwysig gwahanol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru ac yn trafod y goblygiadau o ran polisi.

Mae'r cyfarfodydd hefyd yn gyfle i gynrychiolwyr o sefydliadau perthnasol gwrdd ag Aelodau'r Cynulliad i drafod materion o bryder ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru.

Aelodau ac Ysgrifenyddiaeth

O fis Mawrth 2014, mae'r aelodau a'r ysgrifenyddiaeth fel a ganlyn:

Aelodau:

v  David Melding AC - Dirprwy Lywydd (Cadeirydd)

v  Bethan Jenkins AC

v  Julie Morgan AC

v  Mohammad Asghar AC

Ysgrifennydd:

v  Rhian Williams – Lleisiau o Ofal

Cyfarfodydd a gynhaliwyd yn y 12 mis diwethaf                        

Cynhaliwyd cyfanswm o bedwar cyfarfod rhwng mis Ebrill 2013 a mis Mawrth 2014.

DYDDIAD Y CYFARFOD:

AELODAU'R CYNULLIAD A OEDD YN BRESENNOL

PYNCIAU A DRAFODWYD

YN BRESENNOL A SIARADWYR GWADD

8 Mai 2013

David Melding AC

Dan Butler – Staff Cymorth Mark Drakeford AC

Mark Drakeford AC

Julie Morgan AC

Angharad Thomas – Staff Cymorth David Rees AC

Mark Isherwood AC

Aled Roberts AC

Suzy Davies AC

 

Cymorth ar ôl mabwysiadu

John Wilkinson, Cyfarwyddwr, Wilkinson PR

 

D. Jones – Lleisiau o Ofal

R. Williams - Lleisiau o Ofal

D. Burns - Lleisiau o Ofal

6 Tachwedd 2013

 

David Melding AC

Joyce Watson AC

 

Plant sydd ar goll o ofal

Joyce Watson AC

R. Williams - Lleisiau o Ofal

11 Rhagfyr 2013

 

David Melding AC

 

 

 

Brodyr a chwiorydd mewn gofal

Delma Hughes, Cyfarwyddwr Sefydlu, Siblings Together

 

R. Williams - Lleisiau o Ofal

12 Mawrth 2014

David Melding AC

 

Mohammad Asghar AC

 

Sut y byddai ymestyn yr Oedran Gadael Gofal i 21 oed o fudd i bobl ifanc

Jeremy Thomas, Scott Ruddock, Debra Walker, TACT Fostering Wales.

 

Pobl ifanc -

C. Kinsey, K. Lavender, L. Lavender S. Richards a

 J. Hopkins

TACT Fostering Wales

 

D. Jones - Lleisiau o Ofal

R. Williams - Lleisiau o Ofal

C. Dunn - Lleisiau o Ofal

N. Mitchell - Lleisiau o Ofal

 

Datganiad Ariannol

Talwyd cyfanswm o £4.50 mewn treuliau teithio dros gyfnod y pedwar cyfarfod. Talodd Lleisiau o Ofal am hyn, ac amcangyfrif costau gwerth £534.04 mewn cymorth ymarferol ar gyfer amser staff Lleisiau o Ofal wrth iddynt wasanaethu'r Grŵp Trawsbleidiol ar Blant sy'n Derbyn Gofal.